Beth wyt ti'n edrych am?
Bae Caerdydd o dan eira y Nadolig hwn
Dydd Gwener, 24 Tachwedd 2023
Heddiw, ar Ddydd Gwener Gwallgof, mae cymuned Glannau Bae Caerdydd wedi cyhoeddi y bydd hi’n ddydd Gwener Gwyn, gyda dim ond wythnos i fynd nes lansio Llwybr Eira Bae Caerdydd.
Bydd Bae Caerdydd yn cael ei drawsnewid gyda’u Llwybr Eira am ddim, ar agor i’r cyhoedd rhwng 1 Rhagfyr a 7 Ionawr, gan helpu i gadw’r Nadolig yn hwyl fforddiadwy i deuluoedd yn ystod yr argyfwng costau byw.
Gall cyfranogwyr gasglu map ar gyfer y llwybr o unrhyw leoliad sy’n cymryd rhan neu weld y map ar-lein gyda dewis o gwblhau’r llwybr yn Gymraeg neu yn Saesneg.
Bydd teuluoedd yn cael y dasg o ddod o hyd i wyth cerflun o bobl eira wedi’u gwasgaru ar draws Bae Caerdydd mewn lleoliadau allweddol fel Canolfan Red Dragon, Giovannis, Crefft yn y Bae, Senedd Cymru, Cei’r Fôr-forwyn, Y Gyfnewidfa Lo, Techniquest a Roald Dahl Plass. Efallai y byddant yn ddigon lwcus i weld sled Siôn Corn hyd yn oed.
I gwblhau’r llwybr, mae’n rhaid casglu llythrennau dirgel gan bob cymeriad, ac yna eu haildrefnu i ddatrys pos, a bydd gan bob cymeriad gliw i helpu.
Nid dyna fydd diwedd yr hwyl, gan y bydd un enillydd lwcus wedi ei dynnu ar hap o’r holl geisiadau cywir ar-lein yn ennill ymweliad llawn antur â’r Bae. Bydd hyn yn cynnwys y canlynol ar gyfer un teulu lwcus: pryd o fwyd i bedwar ac aros dros nos yn Y Gyfnewidfa Lo, bowlio yn Hollywood Bowl, taleb o £100 i’w defnyddio ym mwyty o ddewis yr enillydd yng Nghei’r Fôr-forwyn, a thaith cwch ar y Dywysoges Katharine.
Bydd yn well cael eich camerâu yn barod, gan y bydd gwobrau wythnosol hefyd am yr hunlun gorau gydag unrhyw un o’r cerfluniau sy’n cael eu rhannu ar gyfryngau cymdeithasol Croeso Bae Caerdydd gan gynnwys tocynnau ar gyfer ODEON, sioe yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, Techniquest ac arhosiad yng ngwesty Future Inns.
Bydd diwrnod lansio’r llwybr swyddogol yn cynnwys gweithgareddau ar thema eira am ddim, fydd yn meddiannu’r Bae ar 2 Rhagfyr. Bydd ExperiMENTAL Science yn cynnal gweithdai yng Nghanolfan Red Dragon, bydd y Senedd yn cynnal gweithgaredd crefftau Nadolig, bydd Cei’r Fôr-forwyn yn cynnal prynhawn o gemau hwyliog i’r teulu, bydd cymeriadau Nadoligaidd llawen yn ymweld â’r Eglwys Norwyaidd i adrodd straeon a chymryd rhan mewn helfa drysor, ac yn Crefft yn y Bae, bydd teuluoedd yn gallu gwneud addurniadau Nadoligaidd a mynd â nhw gartref.
Dywedodd Emma Constantinou, rheolwr marchnata Canolfan Red Dragon: “Cawsom gymaint o hwyl gyda’n Llwybr Sinsir y llynedd fel na allem beidio dod ag ysbryd yr ŵyl i Fae Caerdydd a chydweithio gyda Phartneriaid Glannau Bae Caerdydd unwaith eto. Roeddem eisiau creu digwyddiad hwyliog a chyfeillgar am ddim, er mwyn i unrhyw un allu cymryd rhan a lledaenu rhywfaint o lawenydd y Nadolig hwn.”
Canolfan Red Dragon yw lleoliad adloniant gorau Bae Caerdydd. Mae’r Ganolfan yn cynnwys llu o leoliadau rhyngweithiol, bwyd a diod a ffordd o fyw, gan gynnwys Sinema’r Odeon, cartref unig sgrin IMAX Cymru, Hollywood Bowl, Grosvenor Casino, Simply Gym, Five Guys, Spice Route, Volcano, Roots a Zaika.