BUZZ Parks yw parc antur trampolîn ac aer mwyaf cyffrous Caerdydd.

GWEFAN

OPENING TIMES

Term Time

Mon - Fri

16:00 - 19:00

Sat - Sun

09:45 - 18:00

*

Welsh School Holidays

Mon - Fri

11:00 - 18:00

Sat - Sun

09:45 - 18:00

Wedi’i leoli ym mwrdeistref ogleddol Llanisien, dim ond 15 munud o ganol y ddinas, does dim esgus i beidio â phiciad draw, beth bynnag fo’r tywydd, am ymarfer corff!

Mae gan y parc arena trampolîn gyda dros 50 o drampolinau rhyng-gysylltiedig, ond mae ymweliad â BUZZ Parks yn cynnig cymaint mwy…

Wrth i chi gerdded drwy’r drws, byddwch yn cael eich cyfarch gan yr ardal weithgareddau aer fwyaf amrywiol yn y wlad!  Yn bron i 10,000 troedfedd sgwâr, mae ein strwythur enfawr yn llawn gweithgareddau a heriau a fydd yn eich cael chi a’r teulu’n chwerthin yn braf.

Llithrwch lawr sleid 22 troedfedd, cwblhau ein cwrs rhwystrau 200 troedfedd, ymladd ar ein trawstiau brwydr, neu ewch i uchderau newydd ar ein wal ddringo.

Mae ein caffi ar y safle yn cynnig hafan i rieni, sydd â golygfa dda o’r parc. Mae’r caffi yn gweini dewis gwych o ddiodydd poeth ac oer, cacennau a danteithion melys, brechdanau a phaninis, ynghyd â phitsas a chŵn poeth i’r rhai sydd angen ailwefru yn barod i fownsio mwy. Mae WiFi am ddim ar gael drwy’r parc hefyd.

Mae sesiynau’n dechrau ar yr awr, ac mae sesiynau bownsio 1 a 2 awr ar gael. Ewch i nôl eich sanau gweithgaredd o’n desg Dderbynfa, gwyliwch ein fideo diogelwch, a bwrw ymlaen gyda’r mwyaf o hwyl y byddwch yn ei gael drwy’r wythnos!

Mae BUZZ Parks yn cynnig hwyl i’r teulu cyfan, am bris gwych.