Beth wyt ti'n edrych am?
HWYL I'R TEULU YN YSTOD HANNER TYMOR MIS HYDREF YNG NGHAERDYDD
Dydd Llun 30 Medi 2024
Mae Caerdydd yn lleoliad arbennig i blant ac oedolion fel ei gilydd. P’un a ydych chi’n chwilio am rywbeth i’r rhai bach, neu blant ifanc a’r rhai yn eu harddegau, mae ein prifddinas yn barod i greu atgofion hanner tymor cyffrous! Edrychwch ar ein detholiad o’r 10 awgrym gorau isod.
-
BWYSTFILOD BACH YNG NGHASTELL CAERDYDD
Ymunwch â’n ffrindiau o’r Ganolfan Addysg Deinosoriaid a Bywyd Gwyllt i gwrdd â’r cast cyfan o greaduriaid amrywiol. Allwch chi ymdopi â tarantula yn cropian arnoch chi, neidr yn llithro ar hyd eich ysgwyddau, neu sgorpion sinistr yn rthedeg i fyny eich braich? Cadwch le yma.
-
ESCAPE ROOMS CAERDYDD
Ydych chi’n chwilio am rywbeth gwahanol? Ewch i Escape Rooms Caerdydd! SAITH ystafell wahanol, pob un â thema wych. 60 munud i chwilio, datrys a dianc. Ydych chi am wneud rhywbeth mwy brawychus y Calan Gaeaf hwn? Trowch y system amddiffyn ymlaen cyn i’r amser redeg allan yn “Z”, y byncer sombĂŻaid, dihangwch ffau’r llofrudd cyfresol yn “OCULUS”, neu profwch pa mor ddewr ydych chi yn ein lifft bwgan i ddod o hyd i’r aur yn, “THE THIRTEENTH FLOOR”.
Cofiwch y cewch ostyngiad o 15% ar eich bil yn FRANCO MANCA gyda phob archeb! Mae’n fargen na allai unrhyw un sy’n hoffi pizza ei hanwybyddu. Ffoniwch 02921 679700 i archebu ar-lein.
3. BOWLIWCH I MEWN I HANNER TYMOR YNG NGHANOLFAN Y DDRAIG GOCH
Mwynhewch arbedion dieflig o dda yr hanner tymor hwn yn Hollywood Bowl. Gall bowlwyr cynnar fwynhau 50% oddi ar gost bowlio, pan archebwch amser cyn 11am yn ystod Gwyliau Hanner Tymor Hydref! Rhowch y cod SPOOKY50 wrth archebu ar-lein.
Hefyd, mae Titan the Robot, sy’n enwog ledled y byd, yn ymweld â Chanolfan y Ddraig Goch y Calan Gaeaf hwn. Ar 31 Hydref, ewch i’r ganolfan am gyfarfod bythgofiadwy gyda’r robo-seren ryfeddol hon! Bydd TITAN, sydd wedi ymddangos ar Britain’s Got Talent, yn barod i’ch adloni gyda’i gyfuniad unigryw o gomedi, cerddoriaeth a hwyl robotig ar gyfer pob oedran. Rhaid gweld e mewn person i gredu’r peth! Mae’r digwyddiad AM DDIM i’r teulu cyfan ei fwynhau ac nid oes angen archebu ymlaen llaw.
4. HWYL A GEMAU YN ROXY LANES
Gyda bariau ledled y DU, Roxy Lanes yw cartref diodydd a gemau pĂŞl! Yn fwy na lĂ´n fowlio yn unig, mae gan Roxy Lanes Caerdydd hefyd bŵl Americanaidd, gwthfwrdd, pong cwrw, caraoce, bowlio pinnau hwyaid, cwrlo heb iâ, gwthfwrdd banc, gemau arcĂŞd, cawell batio a gwthio disgiau yn ogystal â choctels anhygoel a bwyd Americanaidd sy’n tynnu dŵr o’r dannedd.
Mae croeso i bobl dan 18 oed gydag oedolyn cyn 5pm, ac mae prisiau gemau ar gyfer adegau tawelach ar gael. Mae’r fwydlen yn cynnwys pizza a seigiau ochr gydag opsiynau fegan a llysieuol, ynghyd â detholiad o ddiodydd yn cynnwys ystod eang o ddiodydd meddal. Dysgwch fwy yma.
-
TEITHIAU BBC CYMRU WALES
Ydych chi’n chwilio am rywbeth gwahanol ar gyfer y plant yn ystod yr hanner tymor? Camwch i ddyfodol darlledu yn stiwdios mwyaf newydd a mwyaf datblygedig y BBC yn y Sgwâr Canolog, Caerdydd. Ymunwch â staff tywys cyfeillgar ar daith unigryw y tu ôl i lenni stiwdios teledu a radio gyda thechnoleg arloesol gan gynnwys realiti estynedig, realiti rhithwir a chamerâu robotig.
Mae BBC Cymru Wales wedi derbyn gwobr Dewis Teithwyr Tripadvisor, a gwobr aur wych gan Croeso Cymru am ansawdd y teithiau. Fe’i henwyd hefyd yn rownd derfynol categori Busnes Hamdden a Lletygarwch y Flwyddyn yng Ngwobrau Busnes Caerdydd 2023. Chwiliwch am daith ac archebwch eich tocynnau nawr yn bbc.co.uk/tours.
-
YMDODDIAD Y DIWYLLIANNAU YN TECHNIQUEST
Ymgollwch mewn byd o ryfeddod a chael blas ar y gwyliau bywiog sy’n goleuo Hydref a Thachwedd! O oleuadau disglair Diwali i gemeg ffrwydrol Noson Guto Ffowc, a gwefr arswydus Calan Gaeaf i ryfeddodau lleuad Chuseok Corea, mae Techniquest yn datgelu’r wyddoniaeth ddiddorol y tu Ă´l i’r dathliadau byd-eang hyn.
Ewch i weld sut mae diwylliannau’n cyfuno gwyddoniaeth â dathlu yn y dathliadau rhyfeddol hyn. Paratowch ar gyfer cyfuniad Nadoligaidd o hwyl a dysgu! Discover more here.
7. YSGOL HUD A LLEDRITH YNG NGHEI’R FĂ”R-FORWYN
Bydd pob plentyn yn eistedd wrth y bwrdd dewiniaeth gyda Wanda Wishwaft i wneud eu hudlathau unigryw eu hunain. Gan ddefnyddio deunyddiau crefft cynaliadwy, bydd pob plentyn nid yn unig yn dysgu sut i wneud hudlath, ond hefyd sut i wneud yn siŵr bod yr hudlath yn gweithio’n iawn. Fydden ni ddim eisiau troi ein brawd neu chwaer fach yn froga yn “ddamweiniol”, fydden ni?
Dyddiadau’r Sesiynau: Dydd Iau 31 Hydref, Dydd Gwener 1 Tachwedd, Dydd Sadwrn 2 Tachwedd. Dysgwch fwy yma.
-
GEMAU BWRDD I’R TEULU YN CHANCE ENCOUNTERS
Ydych chi’n chwilio am ffordd o ddiddanu’r plant yr hanner tymor hwn? Felly dewch â’r teulu i gael prynhawn o bwyso a mesur gofalus, strategaeth gynnil neu drivia heriol ynghyd â’n bwyd a’n diodydd blasus. Yn amrywio o ysgytlaethau penigamp i de a choffi arbenigol, cwrw crefft a choctels i wneud i’r gwyliau fynd heibio ychydig yn gynt. Welwn ni chi wrth y byrddau chwarae!
Archebwch ar-lein yma.
-
NOSWEITHIAU CALAN GAEAF AMGUEDDFA WERIN CYMRU SAIN FFAGAN
Mae Calan Gaeaf yn agosáu, ac mae’n bryd dod â’ch goblynnod bach i’r Amgueddfa am noson o hwyl i’r teulu llawn IAS A CHYFFRO! Ewch o gwmpas yr Amgueddfa i ddod o hyd i’r ysbrydion sy’n cuddio. Bob nos bydd y dyn wicer yn llosgi. Dathlwch wrth i’r haf droi’n aeaf a gwneud dymuniad wrth i’r gwreichion neidio’n uchel!
Galwch i mewn i’r gweithdai crefft ofnus ar i wneud llusern, diod hudol, a mwy… Ewch am dro trwy lwybr dychrynllyd arswydus. Dewch iyn eich gwisgoedd dychrynllyd a dawnsiwch y noson i ffwrdd yn nisgo tŷ’r ysbrydion newydd sbon. Stopiwch am fyrbryd a diod yng Nghongl Cilewent, lle byddwch chi’n dod o hyd i werthwyr bwyd stryd eleni. Rhaid archebu tocynnau ymlaen llaw.
10. FFANSI SGRECH YNG NGHASTELL FFWL-Y-MWN?
Mae’r digwyddiad Calan Gaeaf sydd wedi gwerthu allan yn dychwelyd, hyd yn oed yn fwy ofnus a chyffrous na’r llynedd! Ewch i Ffwl-y-mwn am noson llawn cyffro, gyda gwell Scare Run sy’n fwy, yn well ac yn fwy dychrynllyd nag erioed. Dawnsiwch y noson i ffwrdd ym Mhabell Maleficent gyda pharti Calan Gaeaf Monster Bash, neu ewch i glywed y Stori Calan Gaeaf arswydus
Galwch gwrdd a chyfarch eich hoff gymeriadau Calan Gaeaf, mentro i mewn i’r Castell Ysbrydion, a darganfod sypreis annisgwyl ym mhob twll a chornel. Beth am ddysgu’r dyfodol? Profwch Ddarlleniadau Cerdyn Tarot y tu mewn i’r castell iasol, lle bydd eich dyfodol yn cael ei ddatgelu. Archebwch ar-lein yma.
Gan fod cymaint i’w wneud yn y brifddinas, rydym yn deall y gallai fod angen ychydig ddyddiau arnoch i gynnwys popeth – felly cymerwch olwg ar y dewis o westai yn y ddinas i gwblhau cynllunio eich gwyliau yng Nghaerdydd. Rydym yn gwybod y cewch amser gwych yn archwilio dros wyliau’r hanner tymor, felly mae croeso i chi ein tagio ar eich anturiaethau gan ddefnyddio #CroesoCaerdydd.